Mae Brawdoliaeth Fwslimaidd yr Aifft yn mynnu bod mwyafrif wedi cefnogi cyfansoddiad newydd y wlad. Mae plaid yr Arlywydd Mohammed Morsi yn honni bod 64% wedi pleidleisio “Ie”.

Ond mae lle i gredu y bydd yr wrthblaid yn herio canlyniad y bleidlais. Mae llefarydd ar ran y brif wrthblaid yn dweud fod “nifer” o anghysonderau ynglyn â’r bleidlais.

Pe bai’r Frawdoliaeth yn gywir, byddai’n fuddugoliaeth arwyddocaol i’r arlywydd, Mohammed Morsi. Mae e’n galw’r datblygiad yn “gyfle hanesyddol” i drwsio a lleddfu’r rhaniadau yn yr Aifft.

Ond mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn poeni y bydd y cyfansoddiad yn rhoi gormod o rym i’r llywodraeth, ac i un dyn yn arbennig.

Ddoe, fe ymddiswyddodd y Dirprwy Arlywydd. Mae’r cyfansoddiad newydd yn diddymu’r swydd honno, beth bynnag.

32% o bobl yr Aifft a drodd allan i bleidleisio.