Fe dreuliodd rhai o drigolion Ystalyfera neithiwr mewn canolfan hamdden, wedi i’w tai gael eu gwagio.

Fe gafodd 11 o dai eu gwagio yn dilyn tirlithriad nos Sadwrn.

Mae Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi bod yn y pentre’n gweithio tan 3 o’r gloch fore heddiw.

Bellach, mae pobol wedi gallu dychwelyd i’w tai, ond mae pedwar ty yn parhau’n wag.

Rhybuddion llifogydd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi 11 o rybuddion llifogydd heddiw:

Pen-coed, Ewenni ac Abercynffig, Pen-y-bont ar Ogwr;

Afon Llynfi ym Maesteg;

Dyffryn Dyfi, i’r gogledd o dre’ Machynlleth;

Llanbedr y Fro;

Sain Ffagan;

Dinbych-y-pysgod a Solfach, Sir Benfro;

Afonydd Mawddwch ac Wnion, a thre’ Dolgellau;

Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy isaf

Trenau

Mae dwr ar y lein yn dal i greu helynt rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae trafferthion hefyd ar y rheilffyrdd yn ardal Caersws, Powys.