Mae bachgen yn ei arddegau wedi marw tra’n heicio yn Awstralia.

Roedd Ewan Williamson, 14 oed, yn cerdded gyda’i dad ym Mharc Cenedlaethol Cape Range yng ngorllewin Awstralia, pan syrthiodd yn anymwybodol.

Fe alwodd ei dad am y gwasanaethau brys tua 2 o’r gloch brynhawn Gwener.

Yn ôl heddlu lleol, roedd y tad a’r mab wedi cyrraedd yr ardal tua 10 o’r gloch fore Gwener, er mwyn cerdded Badjirrajirra Creek. Fe ddaethpwyd o hyd iddyn nhw rhyw 700 metr y tu mewn i graig.

Fe dderbyniodd Ewan Williamson driniaeth gan Ambiwlans Sant Ioan yn y fan a’r lle, ond fe ddirywiodd ei gyflwr. Fe gafodd ei gludo i ysbyty Exmouth gerllaw, lle bu farw yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Mae amodau yn yr ardal honno’n gallu bod yn eithafol iawn, gyda’r tymheredd yn codi cyn uched â 50 gradd Celsius rhwng misoedd Tachwedd a Mawrth.