Fe fu bron i’r actores, Dawn French, wrthod y brif ran yn y gyfres gomedi The Vicar of Dibley – oherwydd nad oedd hi’n credu fod y sgript yn ddigon doniol.

Yn ôl Dawn French, sydd wedi chwarae rhan y Parchedig Geraldine Granger yn y gyfres gan Richard Curtis ers 13 blynedd, roedd hi wedi llygadu rhan arall… sef un y warden, Alice, yn yr un gyfres!

“Pan ddangosodd Richard y rhan i mi, neu egluro’r rhan i mi, y peth cynta’ feddylies i oedd, sut ar y ddaear fydden i’n chwarae rhan rhywun oedd mor blwmin da?” meddai Dawn French ar raglen Desert Island Discs ar Radio 4.

“Mi fues i’n chwilio am y brychau yn y cymeriad… lle’r oedd yr anghenfil oddi mewn i’r ddynes yma? Dyna sut ydw i’n disgrifio comedi.

“Ond roedd Alice yn ddoniol o’r dechrau’n deg… ond wnâi Richard ddim caniatau i mi ei chwarae hi.”

Gwahanu

Ar yr un rhaglen radio, fe siaradodd Dawn French hefyd am ddiwedd ei phriodas gyda’r comediwr, Lenny Henry.

“Roedd y misoedd ola’ hynny’n debyg iawn i’r misoedd cynta’,” meddai, “roedden ni’n ffrindiau da.

“Roedd hynny’n deyrnged i’r math o briodas oedd gyda ni, y ffordd y daethon ni i ben ag e.”