Y twnnel yn Japan
Mae’r gwaith chwilio wedi dod i ben tros dro ar dwnnel yn Japan lle cafodd o leia’ naw o bobol eu lladd.

Roedd slabiau concrid wedi cwympo ar ben ceir tua milltir i mewn i’r twnnel tair-milltir tua 50 milltir o’r brifddinas, Tokyo.

Mae cwmni cynnal a chadw ar hyn o bryd yn ceisio sicrhau gweddill y slabiau yn y twnnel, cyn i’r gwaith achub ailddechrau.

Fe fyddan nhw hefyd yn ymchwilio i achos y digwyddiad – maen nhw’n dweud bod archwiliad wedi ei gynnal ar do’r twnnel ym mis Medi.

Roedd dau o’r cerbydau wedi mynd ar dân.