Y llifogydd yn Llanelwy
Mae disgwyl i Dywysog Siarl gwrdd â rhai o’r bobl a ddioddefodd yn sgil y llifogydd pan fydd yn ymweld â Llanelwy yn Sir Ddinbych heddiw.

Cafodd cannoedd o dai eu difrodi yn y sir ddydd Mawrth diwethaf ar ôl i Afon Elwy orlifo’i glannau yn dilyn glaw trwm.

Mae cannoedd o deuluoedd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi, a bu farw gwraig oedrannus, Margaret Hughes, 91, yn ei chartref yn Nhai’r Felin.

Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House bod y Tywysog yn awyddus i “ddiolch i’r gwasanaethau brys a chynnig cefnogaeth i’r trigolion sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd.”

Roedd y Tywysog wedi gofyn i un o’i elusennau, Busnes yn y Gymuned (BITC) i ffurfio grŵp i ymateb ar frys i’r llifogydd yn Llanelwy.

Roedd y grŵp wedi llwyddo i gael help ymarferol gan gwmnïau drwy ei gysylltiadau busnes, meddai Clarence House.