Mae cefnogwyr pêl-droed o Loegr wedi cael eu hanafu – dau yn ddifrifol – yn dilyn ymosodiad arnyn nhw gan griw o ddynion arfog yn yr Eidal.
Fe ddigwyddodd y trafferthion cyn gem Cynghrair Europa heno rhwng Tottenham Hotspur a Lazio yn Rhufain.
Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd yr Eidal La Repubblica fe ddechreuodd y trafferthion tua 1yb yn nhafarn y Drunken Ship yn sgwâr enwog Rhufain, Campo de Fiori wrth i 100 o “Ultras” – criw sy’n adnabyddus am greu trafferthion – ymosod ar grŵp o gefnogwyr Spurs.
Dywed heddlu Rhufain bod saith o ddynion wedi eu hanafu – pump o Brydeinwyr, un Americanwr ac un arall a Bangladesh. Cafodd dau eu trywanu ac mae’n debyg bod un o’r dynion – Prydeiniwr 25 oed, yn ddifrifol wael.
Yn ôl La Repubblica roedd cefnogwyr Lazio yn cario arfau megis cyllyll, batiau pêl fas, a beltiau a’u bwriad oedd “dinistrio’r” dafarn, sy’n berchen i Americanwr.
Credir bod yr heddlu wedi arestio rhai ger y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.