Dan Carter
Bydd Dan Carter a Richie McCaw nôl yn nhîm y Crysau Duon yn erbyn Cymru Dydd Sadwrn.
Hefyd yn dychwelyd i dîm Seland Newydd fydd y cefnwr Israel Dagg, yr asgellwr Cory Jane a’r prop Owen Franks.
Yn gyfan gwbl, mae yna wyth newid yn nhîm Pencampwyr y Byd.
Nid oes neb wedi curo Seland Newydd mewn 19 gêm.
Tîm Seland Newydd
Olwyr – Israel Dagg, Cory Jane, Conrad Smith, Ma’a Nonu, Julian Savea, Dan Carter ac Aaron Smith.
Blaenwyr – Tony Woodcock, Andrew Hore, Owen Franks, Luke Romano, Sam Whitelock, Liam Messam, Richie McCaw (Capten) a Kieran Read.
Eilyddion – Dane Coles, Wyatt Crockett, Charlie Faumuina, Brodie Retallick, Victor Vito, Piri Weepu, Aaron Cruden a Ben Smith.