Mae bom wedi ffrwydro ar fws yn Israel gan anafu o leiaf 10 o bobol.

Ffrwydrodd y bom am hanner dydd ger pencadlys byddin Israel yn Tel Aviv, wrth i fyddin Israel barhau i ymosod ar filwriaethwyr Palesteinaidd yn Gaza.

Cafodd y bws ei dduo a chwalodd y ffenestri yn y ffrwydrad. Yn ôl un tyst nid oedd llawer o deithwyr ar y bws ar y pryd. Mae Hamas wedi hawlio cyfrifoldeb am y bom.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i weld a gafodd y bom ei adael ar y bws neu ei ffrwydro gan hunan-fomiwr.

O’r 10 person a gafodd eu hanafu, mae tri mewn cyflwr difrifol meddai llefarydd.

Dyma wythfed diwrnod yr anghydfod sydd wedi lladd tua 130 o Balestiniaid a thri o ddinasyddion Israel, ac mae’r ymosodiad yn ergyd i drafodaethau heddwch.

Mae Hillary Clinton, Ysgrifennydd Gwladol America, yn cwrdd gyda Phrif Weinidog Israel, Binyamin Netanyahu, yn Jerwsalem heddiw i drafod dod â’r anghydfod i ben.