Mae Iran yn dweud y dylai’r Palestiniaid yn Gaza gael eu harfogi i wrthwynebu ymosodiadau gan Israel.

Ond fe wrthododd llefarydd ar ran gweinyddiaeth dramor y wlad â chadrnhau eu bod eisoes yn anfon arfau yno.

Mae 113 o bobol wedi cael eu lladd yn Gaza yn ystod yr wythnos ddiwetha’ a thua hanner y rheiny’n bobol gyffredin.

Yn ôl Iran, fe ddylai Israel gael ei rhoi ar brawf am droseddau rhyfel oherwydd yr ymosodiadau diweddar.

Ond mae milwyr y mudiad Hamas hefyd wedi parhau i danio rocedi i mewn i Israel – gan gynnwys rhai sydd, yn ôl asiantaeth newyddion PA, wedi’u gwneud yn Iran.

Trafodaethau

Fe fydd trafodaethau heddwch yn digwydd heddiw, gydag Ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, a Gweinidog Tramor Twrci’n ymweld ag Israel.