Fe fydd cwsmeriaid yn cael gwybod heddiw beth yw cynlluniau Llywodraeth Prydain i reoli prisiau trydan a nwy.
Mae disgwyl datganiad gan yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey, i egluro sut y byddan nhw’n gorfodi cwmnïau i gynnig y prisiau rhata’.
Mae hynny’n debyg o ddod wrth iddo ymddangos gerbron y Pwyllgor Dethol a Ynni yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae’n debyg o ddweud y bydd rhaid i gwmnïau trydan a nwy gynnig nifer cyfyngedig o brisiau gwahanol a symud cwsmeriaid yn otomatig i’r rhata’.
Beirniadu
Fe fu beirniadu mawr am fod cwsmeriaid yn cael eu drysu gan yr holl wahanol gynlluniau prisiau sydd ar gael.
Ond fe achosodd y Llywodraeth ddryswch hefyd, gyda’r Prif Weinidog David Cameron yn gwneud datganiad annisgwyl am ddeddfu i reoli prisiau, cyn i weinidogion eraill awgrymu cynlluniau gwahanol.
Fe fydd astudio mawr ar eiriau’r Democrat Rhyddfrydol, Ed Davey, heddiw i weld a yw’n cadw at addewid ei fos Ceidwadol.