Ban Ki-moon - ar ei ffordd i Israel
Mae nifer y Palestiniaid sydd wedi eu lladd yn Gaza wedi codi i 111 wrth i ymdrechion barhau i geisio atal yr ymladd.

Fe gafodd 38 o bobol eu lladd yno ddoe, a dau arall yn oriau mân y bore heddiw, wrth i Israel barhau i dargedu cartrefi sydd, medden nhw, yn gartref i aelodau milwriaethus o’r mudiad Palestinaidd Hamas.

Roedd y bobol gyffredin a laddwyd ddoe yn cynnwys dau efaill pedair oed. Yn ôl dyn arall, Jamal Daloo, a gollodd wraig, mab a naw aelod o’i deulu ddydd Sul, doedd dim angen dweud dim, dim ond dangos yr ymdrech i ddod o hyd i’w ferch 16 oed o dan rwbel eu cartref.

Yn y cyfamser, fe daniodd milwyr Hamas 95 o rocedi i gyfeiriad Israel, ond fe gafodd traean eu hatal cyn taro. Mae tri o bobol gyffredin wedi eu lladd yn Israel yn ystod y saith niwrnod diwetha’.

Yr ymdrechion heddwch

Heddiw, fe fydd yr ymdrechion heddwch yn parhau, gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, yn ymweld ag Israel i gael cyfarfod gyda’r Arlywydd yno, Shimon Peres.

Mae wedi bod yn trafod gydag arweinwyr yn yr Aifft, un o’r gwledydd sy’n ceisio cyfryngu rhwng y ddwy ocrh.

Mae disgwyl i Weinidog Tramor Twrci gyrraedd Israel hefyd – maen nhwthau’n ceisio rhoi terfyn ar yr ymladd.

Un darn o newyddion da iddyn nhw yw fod Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi gwrthod y syniad o ymosodiad ar y ddaear ar Gaza.

Atal y lladd

Yn ôl pobol sy’n agos at y trafod, y nod yw ceisio atal y lladd ar hyn o bryd cyn mynd ymlaen i drafod amodau pellach.

Yn gyffredinol, mae Hamas eisiau atal y gwaharddiadau symud a masnach y mae Israel wedi eu gosod ar Gaza – ac atal yr ymosodiadau – tra bod Israel eisiau i Hamas roi’r gorau i danio rocedi i mewn i’r wlad.