Mae cyfanswm y marwolaethau yn Gaza wedi codi i fwy nag 80 ar ôl y diwrnod a’r noson fwya’ gwaedlyd eto.

Fe gafodd teulu cyfan eu lladd mewn un ymosodiad gan luoedd Israel – yn ôl asiantaeth newyddion PA, roedd hynny’n golygu 11 o bobol, yn ôl Al Jazeera, roedd dwsin wedi eu lladd.

Roedd y rheiny’n cynnwys pedwar neu bump o blant ac un wraig 81 oed.

Yn gyfangwbl, rhwng dydd Sul a bore Llun, fe gafodd 30 o bobol eu lladd yn y llain o dir lle mae 1.6 miliwn o bobol yn byw a’r rhan fwya’ ohonyn nhw’n bobol gyffredin.

Mae Israel yn dweud eu bod yn targedu tai lle mae arweinwyr milwrol y Palestiniaid yn byw, gan ymosod o’r awyr a thanio o longau yn y Môr Canoldir.

Rhybudd Netanyahu

Ddoe, roedd y Prif Weinidog, Benjamin Netanyahu, wedi rhybuddio bod Israel yn barod i weithredu’n llymach fyth i atal y Palestiniaid rhag tanio rocedi i mewn i’r wlad.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi parhau i danio rocedi gan saethu tua 100 o weithiau ddoe. Fe gafodd y rhan fwya’ eu rhwystro gan amddiffynfeydd Israel ond fe gafodd tuag 20 o bobol eu hanafu.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-moon ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi galw am atal y trais.