Mae disgwyl i gomisiwn annibynnol alw am roi rhai pwerau trethu a hawl benthyg arian i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Fe fydd Adroddiad Silk ar ddatganoli grymoedd ariannol yn cael ei gyhoeddi am 9.30 y bore yma, ond mae’r rhan fwya’ o sylwebwyr yn bendant y bydd yn galw am bwerau newydd.

Mae disgwyl y bydd y Comisiwn yn argymell rhoi grym i Gaerdydd tros rai trethi llai – y cwestiwn mawr yw beth fydd yn ei ddweud am dreth incwm.

Hyd yma, mae’r Blaid Lafur wedi gwrthwynebu datganoli grym tros dreth incwm nes bydd newid hefyd yn Fformiwla Barnett sy’n pennu pa gyllid a ddaw i Gymru o San Steffan.

Fe gafodd y Comisiwn ei sefydlu union flwyddyn yn ôl gan Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Cheryl Gillan.