Mae Israel wedi dial ar Syria drwy ddifrodi cerbyd milwrol ar ôl i gyfres o fomiau lanio yn ei thiriogaeth dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae ymateb Israel, yr ail o fewn deuddydd, wedi cynyddu pryderon y bydd yn cael ei thynnu mewn i’r rhyfel yn Syria.

Hyd yn hyn, mae Israel wedi ceisio osgoi cael ei thynnu i mewn i’r rhyfel ond roedd yn bryderus ar ôl i gyfres o fomiau gael eu tanio at y Golan Heights, sy’n cael ei reoli gan Israel.

Roedd Israel yn credu bod y bomiau wedi eu tanio yn ystod ymladd ddwys ar y ffin  rhwng byddin yr Arlywydd Bashar Assad a gwrthryfelwyr, ac nad oedd yn ymgais i dargedu Israel. Ond bellach maen nhw’n ail-ystyried eu hasesiad o’r sefyllfa.

Mae swyddogion byddin Israel wedi cadarnhau eu bod wedi targedu un o gerbydau milwrol Syria.