Mae daeargryn mawr wedi taro Burma. Mae’n debyg fod o leiaf 12 o bobol wedi cael eu lladd ac mae dwsinau wedi eu hanafu.

Mi wnaeth y daerargyn daro bore heddiw i’r de o ddinas Mandalay. Roedd yn mesur 6.8 ar y radd Richter.

Yn ôl swyddog yn Sintku roedd mwynfa aur wedi dymchwel ynddo gan ladd chwech o bobl.

Dywedir hefyd fod temlau wedi cael eu difrodi yn Mogok, yn agos at ganol y daeargryn.

Mi gafodd 75 o bobol eu lladd y llynedd yn Burma ar ôl i ddaeargryn daro’r wlad ger y ffiniau â Laos a Gwlad Thai.