Mae’n bosibl y byddwn yn gwybod mor gynnar ag un o’r gloch y bore a fydd Barack Obama wedi dal gafael at arlywyddiaeth America.

Gan fod cyfran uchel o’r taleithiau ymylol yn nwyrain y wlad, lle bydd y gorsafoedd pleidleisio’n cau gyntaf, mae’r rhain yn debyg o fod ymysg y taleithiau cyntaf i gyhoeddi eu canlyniadau.

Drwy fod y pleidleisiau’n cael eu bwrw’n electronig, fe fydd amcangyfrif o’r canlyniadau ar gael unwaith y bydd y gorsafoedd yn cau.

Mae dwy o’r taleithiau allweddol – New Hampshire a Virgina – ymysg y taleithiau lle bydd y pleidleisio’n cau am hanner nos yn ein hamser ni. Fe fydd canlyniadau’r ddwy hyn yn debyg o roi amcan clir o ffordd mae’r gwynt etholiadol wedi chwythu, er nad ydyn nhw’n ddigon mawr i wneud gwahaniaeth ynddyn nhw’u hunain.

Y ddwy dalaith bwysicaf

Erbyn un o’r gloch y bore yn ein hamser ni, fe fydd y bythau pleidleisio’n cau yn y ddwy dalaith bwysicaf yn yr etholiad yma – Ohio a Florida.

Os bydd Obama yn ennill y ddwy yma, mae fwy neu lai’n sicr o gael ei ailethol. Hyd yn oed os na fydd ond yn ennill Ohio, mae’n dal yn debygol o fod yn ffefryn. Fe fydd yn rhaid i Mitt Romney, ar y llaw arall, ennill y ddwy er mwyn bod yn weddol hyderus o ennill.

Mae hyn oherwydd bod gan yr arlywydd fwy o daleithiau sy’n ddiogel iddo nag sydd gan ei wrthwynebydd, ac o’r herwydd, mae ganddo lai o fynydd i’w ddringo.

Fodd bynnag, os yw’r poliau’n gywir, a’r canlyniadau’n agos iawn yn y taleithiau hyn, rydym yn debyg o orfod aros yn llawer  hirach am y canlyniadau.