Mae Undeb y Brigadau Tân (FBU) yn cyhuddo Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o beryglu’r cyhoedd trwy ddefnyddio diffoddwyr heb brofiad digonol.

Oherwydd prinder diffoddwyr tân cymwys a phrofiadol yn y Canolbarth a’r Gorllewin, mae’r Gwasanaeth Tân wedi penderfynu defnyddio staff o’r pencadlys ar y cerbydau tân.

“Mae technegau mewn diffodd tân yn newid yn gyflym, a gwybodaeth yn cael ei anghofio,” meddai Barrie Davies, ysgrifennydd Brigâd Canolbarth a Gorllewin Cymru o’r FBU.

“Os yw ymladdwr tân heb fod allan yn ymladd tân ers chwe mis, mae disgwyl iddo ef neu hi fynd ar gwrs ailgynefino cyn mynd allan eto. Dw i wedi gorfod gwneud hyn – sy’n gwbl iawn.

“Eto i gyd, yn sydyn, mae’r Gwasanaeth Tân yn bwriadu anfon pobl nad ydyn nhw wedi bod ar injan dân ers hyd at 20 mlynedd. Waeth pa mor eiddgar ac abl yw pobl o’r fath, dyw hi ddim yn ddiogel i’w defnyddio.

“Mae’n rhoi ei ddiffoddwyr tân a’r cyhoedd mewn perygl wrth weithredu fel hyn.”