Ysgrifennydd Cymru, David Jones
Dywed Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ei fod yn ddiolchgar i Steve Messham, y dyn a gafodd ei gam-drin yn rhywiol gan Dori blaenllaw pan yn blentyn, am ei gyfarfod y prynhawn yma.

“Fe fes i gyfle i wrando arno a dw i’n gobeithio ei fod iddo gael ei sicrhau y bydd camau’n cael eu cymryd,” meddai David Jones ar ôl y cyfarfod.

“Mae wedi croesawu’r ffaith y bydd Cyfarwyddwr yr NCA, Keith Bristow, yn arwain yr adolygiad o’r ymchwiliad gwreiddiol gan yr heddlu, ac i ymchwilio i’r honiadau newydd o gam-drin yng nghartrefi plant gogledd Cymru.

“Mae’r ymchwiliad hwn, ynghyd â’r ymchwiliad i ymchwiliad Waterhouse a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ddoe, yn tanlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau y bydd yn gwneud popeth yn ei allu i helpu’r dioddefwyr a darganfod y gwirionedd am yr honiau erchyll hyn.”