Mae tua 60 o bobl yn sownd ar ynys ar gyrion Efrog Newydd.
Roedd yna adroddiadau yn gynharach heddiw bod trigolion Fire Island wedi anwybyddu gorchymyn i adael eu cartrefi.
Cafodd nifer o dai eu difrodi’n llwyr neithiwr wrth i effeithiau Corwynt Sandy barhau.
Yn dilyn y llifogydd, cafodd gwasanaethau fferi’r ardal ei ganslo a doedd dim modd teithio ar yr unig heol allan o’r ardal.
Mae rhannau helaeth o Fire Island bellach o dan y dŵr.
Bydd Gwylwyr y Glannau yn asesu’r difrod fory, yn ôl yr awdurdodau.
Dywedon nhw ei bod yn bosib bod carthffosiaeth wedi lledu trwy’r dŵr erbyn hyn.
Mae miliynau o bobl heb drydan ar ôl i’r corwynt, sydd bellach yn seiclon, daro arfordir y dwyrain.
Mae 27 o bobl wedi cael eu lladd ar draws nifer o daleithiau, gan gynnwys 10 yn Efrog Newydd.
Mae Maer y ddinas, Michael Bloomberg wedi rhybuddio y gallai’r nifer gynyddu o hyd.
Cafodd y rhan fwyaf o wasanaethau teithio i mewn ac allan o’r ddinas eu gohirio ddoe a heddiw.