Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn damwain ar ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd ddydd Sadwrn.

Cafodd gyrrwr car a gyrrwr beic modur eu lladd yn y gwrthdrawiad yng Nghlydach.

Mae dyn 21 oed o Frynmawr a dyn 22 oed o’r Blaenau wedi eu harestio ar amheuaeth o chwarae rhan mewn gweithred o yrru’n beryglus.

Cafodd dyn 24 oed o’r Fenni ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Mae’r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, ac mae Heddlu Gwent wedi apelio am dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu Uned Archwilio Gwrthdrawiadau Heddlu Gwent ar 01633 642404.