Fe fydd dyn o Brydain yn sefyll ei brawf yng Ngwlad Groeg heddiw ar gyhuddiad o lofruddio ei gariad ar ynys Creta.

Bu farw Chelsea Hyndman, 20, o Castleford yng ngorllewin Swydd Efrog, ar ôl cael ei chludo i ysbyty yn Heraklion gyda phoenau yn ei stumog ym mis Mai 2010.

Dywed yr erlyniad bod ei chariad, Luke Walker, 24, o Brierley Hill, ger Dudley yng nghanolbarth Lloegr, wedi ymosod arni, gan achosi anafiadau angheuol.

Mae Walker yn gwadu ei llofruddio, gan ddweud bod Chelsea Hyndman wedi syrthio ar ol noson allan yn nhref Malia, lle’r oedd y ddau yn byw ac yn gweithio.