Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae’n ymddangos bod lluoedd llywodraeth Syria wedi bod yn defnyddio bomiau clwstwr yn erbyn ei phobl ei hun.

Mae’r arfau hyn yn cael eu gwahardd gan y mwyafrif o wledydd oherwydd eu peryglon i bobl ddiniwed.

Dywed y mudiad Human Rights Watch fod o leiaf 18 o ffilmiau fideo wedi cael eu hanfon o Syria dros y dyddiau diwethaf yn dangos gweddillion bomiau clwstwr yn amryw o drefi’r wlad.

Mae bomiau clwstwr yn peri pryder neilltuol oherwydd maen nhw’n gwasgaru bomiau bach dros ardal eang, gyda llawer nad ydyn nhw’n ffrwydro ar unwaith gan achosi bygythiad i bobl gyffredin am hir wedyn.

Undeb Sofietaidd

Dywed Human Rights Watch fod yr arfau yn y ffilmiau fideo wedi cael eu gwneud yn yr Undeb Sofietaidd, a arferai gyflenwi llawer o arfau i Syria cyn iddi ddadfaelio.

“Mae agwedd ddi-hid Syria at ei phobl gyffredin yn gwbl amlwg yn ei chyrch awyr, sy’n ymddangos ei bod bellach yn cynnwys gollwng y bomiau clwstwr marwol hyn ar ardaloedd poblog,” meddai Steve Goose, cyfarwyddwr arfau Human Rights Watch.

Ychwanegodd fod y bomiau sy’n cael eu dangos yn y ffilmiau fideo “i gyd yn dangos arwyddion eu bod nhw wedi cael eu gollwng o awyrennau.”

Mae mwy na 32,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Syria ers cychwyn gwrthryfel yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad 19 mis yn ôl.