Angharad Mair, cadeirydd y cyfarfod
Fe fydd y mudiad newydd, Dyfodol i’r Iaith, yn cynnal ei gyfarfod cyffredinol cyntaf yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf.

Un o’r prif faterion ar yr agenda fydd ethol Bwrdd Cyfarwyddwyr i arwain gweithgareddau’r mudiad newydd.

Fe fydd y cyfarfod, a fydd yn cael ei gadeirio gan y ddarlledwraig Angharad Mair, hefyd yn cynnwys trafodaeth ar lobïo yng Nghymru o dan arweiniad Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth, gyda Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC a Llyr Roberts, Cyfarwyddwr cwmni Positif.

Y siaradwyr eraill a fydd yn cymryd rhan yn y cyfarfod fydd Kathryn Jones o Gwmni Iaith yn trafod cynllunio ieithyddol a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn trafod yr angen am fudiad iaith newydd.

Bydd y cyfarfod, a gynhelir yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, yn cychwyn am 11am.