Yn ôl adroddiadau, mae cyfres o ffrwydradau yn ninas Aleppo wedi lladd o leiaf 27 o bobl.

Cafodd y bomiau eu tanio yn Sgwar Saadallah al-Jabari ger swyddfa swyddogion milwrol a gwesty.

Mae lluoedd y llywodraeth wedi bod yn brwydro am reolaeth yn erbyn gwrthryfelwyr ers wythnosau wrth i’r frwydr am rym dros ddinas Aleppo gynyddu.

Cafodd sefyllfa Syria ei thrafod mewn cynhadledd yn Efrog Newydd ddiwedd yr wythnos diwethaf.

Mae’n ymddangos bod y Cenhedloedd Unedig wedi methu dod i gytundeb ar y ffordd ymlaen i ddatrys yr anghydfod.

Mae mwy na 8,000 o bobl wedi cael eu lladd ers dechrau’r brwydro, yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon.