Mae Athro prifysgol yn Alabama wedi cael ei charcharu am oes ar ôl iddi saethu’n farw tri o’i chydweithwyr ac anafu tri o bobl eraill.
Roedd cyn athro Prifysgol Alabama yn Huntsville, Amy Bishop, wedi osgoi’r gosb eithaf ar ôl pledio’n euog i’r llofruddiaethau ar 12 Chwefror 2010.
Fe all Bishop wynebu achos arall yn Massachusetts lle mae wedi ei chyhuddo o lofruddio ei brawd 18 oed yn 1986.
Cafodd pennaeth Bishop, Gopi Padila, a’r athrawon Maria Ragland Davis ac Adriel Johnson eu lladd yn yr ymosodiad. Cafodd yr Athro Joseph Lehy, Stephanie Monticciolo Luis Cruz-Vera eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae’r heddlu’n credu bod Bishop wedi ymosod ar ei chyd-weithwyr yn ystod cyfarfod staff am ei bod yn gandryll na chafodd gynnig swydd yn y brifysgol.