Map yn dangos Kunduz
Mae o leia’ 28 o bobol wedi cael eu lladd yn Afghanistan mewn ymosodiad ar swyddfa’r Llywodraeth yng ngogledd y wlad.
Fe ddywedodd yr heddlu bod hunan-fomiwr wedi achosi ffrwydrad ar y ffordd i mewn i safle’r adeilad yn Kunduz gan ladd pobol oedd yn aros i gael cardiau adnabod.
“Roedd y lle’n llawn heddiw gan fod pobol wedi ymgynnull i gasglu eu cardiau,” meddai Prif Heddwas yr ardal.
Does dim cadarnhad faint o bobol sydd wedi cael eu hanafu hyd yn hyn.
Mae nifer sylweddol o wrthryfelwyr yn ardal Kunduz ac mae’r bygythiad yno wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf.
Mae cynghrair Nato wedi anfon mwy o filwyr i’r rhanbarth i geisio tynhau eu gafael ar y rhanbarth ond mae trais ar gynnydd.
Bu farw 20 o bobol gan gynnwys llywodraethwr y rhanbarth, Mohammad Omar, yn Kunduz ym mis Hydref mewn ymosodiad ar fosg. Fe gafodd arweinydd arall ei ladd y mis diwetha’.