Haapsalu
Fe fydd Llywodraeth Estonia’n cynnal cyfarfod brys ar ôl i ddeg o blant anabl gael eu lladd mewn tân
Fe fydd fory hefyd yn ddiwrnod o alaru swyddogol yn y wlad ar ôl y trychineb yn nhref Haapsalu.
Roedd y rhai a laddwyd ymhlith 37 o blant ac oedolion mewn cartref i blant amddifad ond fe gafodd y lleill eu hachub.
Yn ôl y gwasanaeth tân lleol, roedd y fflamau wedi sgubo trwy’r adeilad pren o fewn munudau.
Er hynny, medden nhw, roedd y cartref wedi pasio profion diogelwch.