Madrid
Mae degau o filoedd o bobl wedi bod yn protestio mewn raliau yn Sbaen a Phortiwgal yn erbyn mesurau cynilo y llywodraethau oherwydd argyfwng yr Euro.
Fe wnaeth protestwyr daflu tân gwyllt a thomatos at bencadlys Y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn Lisbon, prifddinas Portiwgal, tra ym mhrifddinas Sbaen, Madrid, fe wnaeth llond bysiau o brotestwyr gau sawl ffordd am gyfnod cyn cychwyn ar daith brotest.
Mae dyn o ddinas Aveiro yng ngogledd Portiwgal yn yr ysbyty ar ôl iddo geisio rhoi ei hun ar dân mewn protest yno.
Mae’r argyfwng economaidd yn arbennig o ddrwg yn Sbaen. Mae diweithdra yno yn agos i 25% a gall y sefyllfa waethygu yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd llywodraeth Sbaen yn cyflwyno nifer o fesurau economaidd cyn diwedd Medi sy’n gwneud i rai amau y bydd y wlad yn gofyn am gymorth oddi wrth Banc Canolog Ewrop cyn bo hir.
Draw ym Mhortiwgal, mae’r trigolion yn wynebu cynydd yn eu cyfraniadau nawdd cymdeithasol o 11% i 18%, bydd treth incwm yn cynyddu a bydd gweithwyr yn colli un ai eu bonws Nadolig neu bonws gwyliau.
Mae diweithdra ym Mhortiwgal yn 15% a’r ddwy wlad yn diodde y dirwasgiad gwaethaf ers y saithdegau.