Y Pab Benedict XVI
Daeth degau o filoedd o bobl ynghŷd ar rodfa’r môr yn Beirut, prifddinas Libanus heddiw i ddathlu offeren efo’r Pab Benedict XVI.

Dyma ddiwrnod olaf ei ymweliad tridiau â’r wlad.

Galwodd ar y gynulleidfa i fod yn “wneuthurwyr heddwch” ac i weithredu yn erbyn “ llwybr llym marwolaeth a dinistr”.

“Mae casineb a thrais yn ymwythio’u ffordd i mewn i fywydau pobl, a’r merched a’r plant sy’n diodde gyntaf,” meddai. “Pam yr holl erchylltra? Pam fod cymaint yn marw?”

Roedd lefelau dioglewch yn arbennig o uchel yn ystod yr ymweliad ac yn amlwg iawn heddiw oherwydd y trais yn Syria a’r protestio yn erbyn y ffilm gwrth-Islamaidd sydd yn amharchu’r Proffwyd Mohammed.