Mae’r heddlu yn Sudan yn delio gyda phrotest tu allan i lysgenhadaeth Prydain yn Khartoum, yn ôl y Swyddfa Dramor.

Daw’r brotest yno wrth I filoedd o Fwslemiaid ddangos eu hanfodlonrwydd gyda ffilm Americanaidd sy’n pardduo’r Proffwyd Mohammed.

Yn Kashmir bu o leiaf 15,000 o bobol yn llosgi baner America ac yn galw’r Arlywydd Obama yn “derfysgwr”.

“Dylai dinasyddion America adael ar unwaith oherwydd y mae teimladau’r Mwslemiaid wedi eu tramgwyddo gan y lluniau hyn,” meddai Mufti Bashiruddin Ahmad, offeiriad gyda’r wladwriaeth.

Mae Llysgenhadaeth America wedi galw eto ar ei dynasyddion I gadw draw o Kashmir.