Ar y diwrnod pan gafodd arweinydd y grŵp Pussy Riot ei charcharu am ddwy flynedd mewn llys yn Moscow, roedd hi’n gwysgo crys-T wedi ei ddylunio gan Gymro.

Ganol Awst roedd lluniau o Nadezhda Tolokonnikova yn y doc mewn crys-T ‘!No Pasaran!’ gan Huw Rhys Williams, yn bla ar raglenni teledu a phapurau newydd ledled y byd.

Daeth hyn yn ddipyn o sioc i’r dyn wnaeth greu’r ddelwedd ar y crys-T, sy’n fab i ddau athro o Ben Llŷn.

“Roeddwn i wastad wedi ffansïo dylunio crysau-T,” meddai Huw Rhys Williams, “ond roedd fy nhad yn gwaredu pan wnes i ddweud wrtho fy mod am wneud fy mywoliaeth yn gwerthu crystau-T.”

Y stori’n llawn yn rhifyn wsos yma o gylchgrawn Golwg