Fe fydd ymladd teirw yn cael ei ddarlledu’n fyw ar deledu yn Sbaen heno ar ôl i’r llywodraeth geidwadol newydd godi gwaharddiad ddaeth i rym chwe blynedd yn ôl.

Fe fydd yn cael ei ddarlledu ar RTVE o ddinas Valladolid yn y gogledd heno.

Mae’r arfer traddodiadol o ymladd teirw wedi dod yn llai poblogaidd erbyn hyn ac mae’r argyfwng economaidd yn y wlad hefyd wedi amharu ar y digwyddiad.

Mae’r penderfyniad i ail-ddechrau darlledu ymladd teirw yn fuddugoliaeth i’r rhai sydd o blaid y traddodiad ar ôl iddo gael ei wahardd eleni yng Nghatalonia.

Ond mae’n ergyd i’r rhai sy’n gweithredu er lles hawliau anifeiliaid sy’n dweud bod ymladd teirw yn farbaraidd.

Cafodd darllediadau byw eu gwahardd yn 2006 o dan y llywodraeth Sosialaidd flaenorol oedd yn dweud eu bod  yn rhy gostus, ond mae’r Prif Weinidog newydd, Mariano Rajoy, ddaeth i rym y llynedd, yn cefnogi ymladd teirw.