Yr Arlywydd Assad
Mae pennaeth y prif grŵp sy’n gwrthwynebu llywodraeth Syria wedi gofyn am  gymorth sylweddol i helpu i ailadeiladu’r wlad os yw’r Arlywydd Bashar Assad yn cael ei ddisodli.

Dywedodd Abdelbaset Sieda, pennaeth Cyngor Cenedlaethol Syria, fod angen cynllun yn debyg i’r cytundeb rhyngwladol a gafodd ei gyflwyno yn Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ychwanegodd fod arian cyhoeddus a sefydliadau wedi cael eu difetha gan Bashar Assad  i’r fath raddau fel nad yw Syria yn gallu dibynnu ar refeniw olew a threthi er mwyn ailadeiladu’r wlad.

“Yn dilyn y difrod, rydym yn bendant fod Syria angen cynllun tebyg i un Marshall (Ewrop) i sicrhau fod  seiliau ariannol ac economaidd y wlad yn gadarn,” meddai Abdelbaset Sieda.

“Yn wahanol i Irac, does gan Syria ddim digon o gronfeydd olew i allu ail-ddechrau’r economi a chynorthwyo adluniad y llefydd sydd wedi’u difrodi gan ymosodiadau,” ychwanegodd.

Roedd Syria’n arfer cynhyrchu 380,000 o gasgenni o olew bob dydd gyda 130,000 o’r rheiny’n cael eu hallforio, tra bod Saudi Arabia yn cynhyrchu tua 10 miliwn y dydd.

Mae ymdrechion diplomyddol i ddod â’r trais yn Syria i ben wedi methu hyd yn hyn, ond dywed gwledydd y gorllewin bod angen gwneud paratoadau ar gyfer y dyfodol ar ôl i Assad gael ei ddisodli.

Yn ôl adroddiadau o’r wlad, roedd 5,000 o bobol wedi’u lladd yn Syria ym mis Awst yn unig – y nifer  uchaf yn ystod y 17 mis diwethaf.