David Jones
Mae llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru yn San Steffan wedi dweud bod anhoffter Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru o’r Cynulliad Cenedlaethol yn “treiddio trwy ei waith yn San Steffan.”

Mae Owen Smith yn honni bod David Jones yn “gefnogwr i’r polisïau economaidd asgell dde sydd mor niweidiol i Gymru” ac mae’n ei feirniadu am fod yn gyn-aelod o’r grŵp Ceidwadol Cornerstone a alwodd unwaith am ddiddymu datganoli i Gymru a’r Alban.

Mae Owen Smith hefyd yn galw ar David Jones i roi’r gorau i unrhyw fwriad i newid ffiniau etholiadol yng Nghymru.

Roedd Cheryl Gillan wedi cyflwyno Papur Gwyrdd ar y pwnc ond mae amheuaeth am ei ddyfodol ar ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Glymblaid yn San Steffan ddweud na fyddan nhw’n cefnogi’r cynlluniau.

“Os yw’n gwrthod tynnu’r Papur Gwyrdd yn ôl, yn groes i ddyhead y Cynulliad Cenedlaethol a’i grŵp Torïaidd ef ei hun yno, yna bydd amheuaeth yn parhau fod David Jones ddim yn bleidiol i ddatganoli,” medd Owen Smith.


Owen Smith
Newid trefn ethol

Mae’r Papur Gwyrdd yn cynnig newid yr etholaethau yng Nghymru gan ethol 30 aelod i’r Cynulliad trwy system gyntaf i’r felin, a 30 trwy system gynrychiolaeth gyfrannol.

Mae Owen Smith wedi dweud yn y gorffennol nad oes mandad gan y Toriaid yn San Steffan i ymhél gyda threfniadau etholiadol Cynulliad Cymru.

Yn gynharach eleni rhybuddiodd Carwyn Jones fod “system etholiadol y Cynulliad yn fater i bobol Cymru ac i neb arall”, a dywedodd Plaid Cymru mai “Cynulliad Cymru nid Llywodraeth Prydain ddylai arwain y ddadl ar etholiadau i’r Cynulliad.”