Mae swyddogion yn Afghanistan yn dweud fod hunan-fomiwr wedi lladd 10 dinesydd ac wedi anafu 30 arall yn ystod angladd yn nwyrain y wlad.
Dywedodd Jamil Shamal, dirprwy bennaeth yr heddlu yn Nangarhar, fod yr ymosodiad wedi digwydd heddiw ym mhentref Shagai yn ardal Durbaba.
Roedd y rhai a laddwyd mewn angladd henuriad o’r ardal.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad eto.
Yn ôl ysgrifennydd Jamil Shamal, targed yr ymosodiad oedd pennaeth heddlu’r ardal, Hamisha Gul, a oedd yn yr angladd ond a oroesodd yr ymosodiad.
Mae’r Taliban yn aml iawn yn targedu swyddogion y llywodraeth mewn achlysuron cyhoeddus fel angladdau neu briodasau.