Mae cymaint â 90 o swyddi yng nglofa Aberpergwm yng Nghwm Nedd yn y fantol, yn ôl perchnogion Americanaidd y safle.

Yn ol adroddiadau, mae aelodau staff yn y pwll, sy’n cyflogi 350 o weithwyr, wedi derbyn llythyr sy’n sôn am “fygythiad diswyddiadau”.

Mae’n debyg bod cwmni Walter Energy, sy’n berchen ar y lofa, yn gofidio am bris rhad glo, yn ogystal â chais i godi fferm wynt yn yr ardal.

Bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal yn y dyfodol agos.