Carwyn Jones
Croesawodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, apwyntiad David Jones, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gael cyfarfod gydag ef er mwyn “sefydlu perthynas newydd er mwyn mynd i’r afael â’r gwaith difrifol sydd o’n blaenau ni.”
“Cyn belled â bod Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, rwyf am wneud yn glir nad ydyn ni mewn cystadleuaeth gyda Llywodraeth Prydain – na chwaith wedi bod,” meddai Carwyn Jones.
Dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn wynebu’r dasg o geisio gwneud eu gorau i bobol Cymru yn ystod y cyfnod economaidd anodd hyn ac “na ddylai unrhyw beth dynnu sylw’r naill lywodraeth na’r llall oddi ar y dasg yna.
“Er mwyn gwireddu hyn mae angen cael Swyddfa Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol sy’n rhannu ein dyhead ni ac sy’n barod i ‘daro’r drwm’ dros Gymru ar fwrdd y Cabinet. Rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn digwydd,” meddai Carwyn Jones.
Andrew RT: ‘Penodi’r dyn iawn’
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, y bydd David Jones yn gwneud “jobyn gwych” fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac mai “ef yw’r dewis iawn ar gyfer y swydd.”
“Rwy’n gwybod y bydd yn cynnal ei frwdfrydedd dros Gymru ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef,” ychwanegodd Andrew RT Davies.
‘Dim newid agwedd’
Ond mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn amau a fydd na newid agwedd yn y Cabinet.
Dywedodd: “Dydw i ddim wedi cael fy argyhoeddi hyd yn hyn y bydd yna unrhyw newid yn nylanwad Cymru o gwmpas y bwrdd yn y Cabinet.”
Ychwanegodd bod Cymru’n dioddef o ganlyniad i’r argyfwng economaidd a’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus ac nad oedd “yr un hen fesurau” yn gweithio. Dywedodd bod angen newid radical a buddsoddiad ar frys os yw Cymru am oroesi’r argyfwng.