Mae Prif Weinidog Israel yn pwyso am safiad rhyngwladol cryfach yn erbyn Iran, yn sgil ofnau cynyddol am raglen niwclear y wlad.

Rhybuddia Benjamin Netanyahu fod Iran yn prysur ennill y gallu i ddefnyddio arfau niwclear, a bod angen ystyried o ddifrif bygwth grym milwrol yn ei herbyn.

“Dw i’n credu nad yw Iran yn gweld ymrwymiad rhyngwladol i atal ei rhaglen niwclear,” meddai Netanyahu wrth gabinet Israel heddiw.

“Hyd nes fydd Iran yn gweld hyn, ni fydd yn rhoi’r gorau i ddatblygu ei rhaglen niwclear. Rhaid i Iran beidio â chael arf niwclear.”

Cred Israel y byddai Iran ag arfau niwclear yn fygythiad i’w bodolaeth, yn wyneb galwadau o Iran am ddinistrio Israel, y ffordd y mae’n datblygu taflegrau sydd â’r gallu i daro Israel, a’i chefnogaeth i grwpiau milwriaethus gwrth-Iddewig.

Mae America, fodd bynnag, yn gwrthwynebu ymosodiad gan Israel ar Iran, ac mae pennaeth lluoedd arfog America, y Cadfridog Martin Dempsey, yn rhybuddio na fyddai arno eisiau cydweithredu dim mewn ymosodiad o’r fath.