Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae dau fom wedi ffrwydro gerllaw swyddfeydd prif swyddogion milwrol Syria yng nghanol y brifddinas Damascus.

Dywed gwasanaeth teledu’r wlad i’r ffrwydradau ddigwydd yn ardal Abu Rumane o’r brifddinas, gan anafu pedwar o swyddogion milwrol.

Cred y llywodraeth fod y ffrwydrad yn targedu adeilad sydd wrthi’n cael ei adeiladu gerllaw swyddfeydd y prif gadfridogion. Mae’r adeilad, a oedd yn wag pan ddigwyddodd y ffrwydrad, ar gyfer milwyr sy’n gwarchod swyddfeydd y cadfridogion, tua 200 llath i ffwrdd.

Yn gynharach cafwyd adroddiadau hefyd fod bom mewn car gerllaw gwersyll i ffoaduriaid Palestinaidd yn un o faestrefi Damascus wedi lladd o leiaf 15 o bobl yn hwyr neithiwr.

Mae asiantaeth newyddion Syria, SANA, yn beio “grŵp terfysgol arfog” am y ffrwydrad, term y mae’n arfer ei ddefnyddio i ddisgrifio’r gwrthryfelwyr, Byddin Rydd Syria, sy’n ceisio dymchwel yr arlywydd Bashar Assad.