Al Jazeera'n adrodd am farwolaethau Bahrain
Fe fu rhagor o wrthdaro ar strydoedd Gwlad yr Iorddonen, rhwng gwrthwynebwyr a chefnogwyr y Llywodraeth.
Yn y cyfamser, mae galarwyr yn Bahrain gerllaw wedi galw am gael gwared ar frenin y wlad, wrth iddyn nhw gladdu protestwyr a gafodd eu saethu gan y lluoedd arfog yno.
Er bod achosion y gwrthdystiadau’n wahanol yn y ddwy wlad, maen nhw’n arwydd o’r anesmwythyd sydd bellach yn lledu trwy lawer o’r Dwyrain Canol.
Does dim adroddiadau bod neb wedi’u brifo yn Amman, prifddinas yr Iorddonen, wrth i tua 2,000 o brotestwyr alw am fwy o lais. Mae llawer yn Foslemiaid caeth sy’n gwrthwynebu agweddau ‘gorllewinol’ y Llywodraeth.
Miloedd mewn angladdau
Yn Bahrain, roedd miloedd yn yr angladdau wrth i danciau feddiannu’r strydoedd i atal rhagor o brotestio.
Y gred yw bod o leia’ bump o bobol wedi marw a thua 230 wedi cael eu brifo yn y protestiadau sy’n cynnwys elfen o wrthdaro rhwng y mwyafrif Shia a’r rheolwyr o gefndir Sunni.
Mae 18 o ASau Shia wedi ymddiswyddo o’r senedd ond mae’r Llywodraeth wedi cyhuddo’r Shia o wrthio’r wlad “at ymyl dibyn sectaraidd”.
Irac hefyd, meddai Al Jazeera
Mae gwasanaeth newyddion Saesneg y sianel Arabaidd Al Jazeera’n dweud bod chwech wedi marw yn Bahrain ac mae’n adrodd hefyd am brotestiadau yn Irac gan bobol sydd eisiau gwasanaethau gwell.
Ar y llaw arall, mae’n disgrifio rali fuddugoliaeth yn Yr Aifft i ddathlu wythnos ers dymchwel yr Arlywydd Hosni Mubarak.