Llys y Goron Exeter (HMCS)
Fe gafodd dyn 19 oed ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiadau o annog merch ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyw.

Fe gafodd Jake Ormerod ei arestio ddoe wrth i Heddlu Dyfnaint a Chernyw ymchwilio i gylch cam-drin a allai, medden nhw, gynnwys cymaint ag 20 o ferched rhwng 12 ac 16 oed yn ardal Torbay.

Ymhen wythnos, fe fydd y barnwr yn gwrando ar gais arall am fechnïaeth gan y dyn o Torquay ac fe fydd achos pledio ffurfiol yn digwydd ddiwedd Mai.

Roedd y cyngor lleol wedi sgrifennu ar rieni plant ysgol uwchradd yn eu rhybuddio am yr ymchwiliad, ond maen nhw’n pwysleisio nad oes peryg i blant gael  eu cipio gan ddieithriad ar y stryd.

Mae’r heddlu hefyd wedi dweud nad oedd y cam-drin wedi digwydd mewn ysgolion yn yr ardal.

Yn ôl yr heddlu, mae’r ymchwiliad cyfan yn cynnwys honiadau o ymosodiadau rhywiol a threisio tros gyfnod o ddwy neu dair blynedd.

Mae ganddyn nhw 50 o swyddogion yn ymchwilio, yn dod o hyd i ddioddefwyr ac yn eu holi.