Map o Afghanistan yn dangos dinas Khost (NordNordWest CCA 3.0)
Mae hunan-fomiwr wedi ffrwydro car yn ninas ddwyreiniol Khost yn Afghanistan, gan ladd o leia’ wyth o bobol ac anafu dwsinau.
Mae gwrthryfelwyr y Taliban eisoes wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad mewn car llawn ffrwydron ar swyddfa heddlu yn y ddinas.
Roedd dau blismon ymysg y rhai a laddwyd, meddai Abdul-Hakim Isaqzai, pennaeth heddlu talaith Khost – sy’n ffinio â Phacistan. “Roedd e’n ffrwydrad cryf iawn, cafodd dinas Khost ei hysgwyd,” meddai.
Heddlu’n amau
Fe allai fod yn waeth, meddai – roedd yr heddlu wedi dechrau amau’r bomiwr a hynny wedi gwneud iddo ffrwydro’r ddyfais ynghynt na phryd.
Fe gafodd tai a siopau eu chwalu gan y ffrwydrad ac mae lluoedd diogelwch bellach wedi amgylchynu’r ardal.
Yn Rhagfyr 2009, fe gafodd saith o weithwyr cudd Americanaidd y CIA eu lladd yn Khost gan hunan-fomiwr.