Affganistan
Daethpwyd o hyd i gyrff dwy ddynes a 15 o ddynion ar ochr y ffordd yn ardal Musa Quala o dalaith Helmand yn Affganistan.
Roeddyn nhw i gyd wedi cael eu curo neu eu saethu cyn eu dienyddio.
Dywed swyddogion y llywodraeth yn lleol bod y dynion wedi bod yn gwrando ar gerddoriaeth a gwylio’r merched yn dawnsio cyn yr ymosodiad.
Mae nhw’n honni mai’r Taliban sy’n gyfrifol am eu bod yn gwrthwynebu i ddynion a merched gymdeithasu.
Hefyd lladdwyd 10 milwyr ac 11 o wrthryfelwyr wedi i ohyd at 200 o ddynion ymosod ar un o safleoedd byddin Affganistan yn yr un ardal.
Yn nwyrain y wlad, cafodd dau filwr Americanaidd eu saethu’n farw gan un o filwyr byddin Affganistan.
Roedd y ddau yn rhan o lueodd NATO yn y wlad ac mae 42 o’r milwyr yma wedi cael eu lladd gan aelodau o fyddin Affganistan hyd yma eleni.
Bydd lluoedd NATO yn gadaael Affganistan yn 2014.