Anders Breivik
Mae’r adroddiad swyddogol i’r gyflafan yn Norwy pan laddwyd 77 o bobl yn Oslo ac ar ynys Utoeya llynedd yn feirniadol iawn o ddiffygion y gwasanaethau diogelwch a’r heddlu yn y wlad.

Mae Anders Behring Breivik wedi cyfaddef lladd ac anafu degau o bobl trwy osod bom ynghanol prifddinas Norwy, Oslo a saethu mynychwyr gwersyll ar yr ynys ar 22 Gorffennaf.

Mae’r adroddiad gyhoeddwyd heddiw yn dweud bod yr heddlu wedi cymeryd gormod o amser yn cyrraedd yr ynys ac y buasai’r ymosodiad ar adeiladau’r llywodraeth yn Oslo ddim wedi digwydd pe bai mesurau dioglewch oedd wedi cael eu cytuno eisoes ar y gweill.

Roedd y stryd y tu allan i swyddfa’r Prif Weinidog i fod ar gau i drafnidiaeth ers saith mlynedd er enghraifft a wnaeth yr heddlu ddim ymateb i ddisgrifiad da o’r dyn oedd yn gyfrifol am y ffrwydriad yn Oslo am ddwy awr ar ôl derbyn yr alwad.

Dywed yr adroddiad hefyd nad oedd rhybuddion wedi cael eu cyhoeddi led led Norwy pan ddaeth hi’n amlwg bod ymosodiad terfysgol yn digwydd.

Mae Prif Weinidog Norwy, Jens Stoltenberg, wedi dweud ei fod yn ymddiheuro am y camgymeriadau a’i fod yn derbyn y cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd ond wnaeth o ddim cyhoeddi bod unrhyw un am ymddiswyddo oherwydd yr adroddiad.

Bydd Anders Behring Breivik yn cael ei ddedfrydu 24 Awst.