Mae un o sylfaenwyr ‘Dyfodol i’r Iaith’ yn dweud fod y mudiad newydd wedi cael croeso brwd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a bod nifer helaeth wedi ymaelodi yn ystod yr ŵyl ac ers hynny.
“Mae’n amlwg bod angen mudiad o’r fath” meddai Emyr Lewis, “gan fod pob math o bobol o bob rhan o Gymru ac o bob dosbarth a chefndir ieithyddol wedi croesawu’r datblygiad.”
Cafodd y mudiad ei sefydlu yn ddiweddar er mwyn ymgyrchu yn gyfansoddiadol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth ac i ddatblygu a chynyddu’r deunydd o’r Gymraeg.
Mae sylfaenwyr y mudiad yn dweud bod taer angen mudiad o’r fath yng Nghymru ar ol datganoli.
Cyfarfod cyffredinol
Bydd y mudiad yn cynnal cyfarfod cyffredinol yn ystod yr hydref gan ethol Bwrdd fydd yn cael ei roi ar waith i ddatblygu’r mudiad ac ymgyrchu dros y Gymraeg heb dorri’r gyfraith.
Fydd y mudiad beth bynnag ddim yn chwilio am statws elusen.
“Gallai statws elusennol gyfyngu ar ein rhyddid i gynnal rhai ymgyrchoedd ond dyma ni wedi gwthio’r cwch i’r dwr nawr a gobeithio y bydd eraill o hyn allan yn cynorthwyo gyda’r rhwyfo,” meddai Emyr Lewis.