Elfed Roberts
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud ei fod yn gobeithio na fydd yr ŵyl ym Mro Morgannwg yn gwneud colled ariannol, er bod niferoedd yr ymwelwyr yn îs nag mewn eisteddfodau blaenorol.

Bu 138, 767 o bobol ar y Maes eleni, sef 10,000 yn llai nag yn Wrecsam y llynedd ac 18,000 yn llai na fu yng Nghaerdydd bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd Elfed Roberts wrth Golwg360 bod amryw o ffactorau ar waith eleni.

“Roedd y tywydd yn sâl ddechrau’r wythnos, roedd y Gemau Olympaidd ymlaen a mae gynnon ni’r sefyllfa economaidd anodd.”

“Ond dwi ddim yn edifarhau dim am yr wythnos. Roedd y niferoedd yn barchus.”

Dywedodd Elfed Roberts fod hi’n gynnar o ran y fantolen ariannol ond ei fod yn obeithiol y gall yr ŵyl dalu am ei hun.

Roedd cronfa leol yr Eisteddfod wedi codi £312,500 erbyn dechrau’r wythnos, gan fwrw’r nôd o £300,000.

Mynnodd Elfed Roberts fod rhaid i’r Eisteddfod deithio i bob rhan o Gymru gan fod awdurdodau lleol yn cyfrannu tuag ati.

“Y flwyddyn nesaf byddwn ni’n mynd i Sir Ddinbych a’r flwyddyn ganlynol i Sir Gaerfyrddin felly dwi’n obeithiol am y niferoedd a ddaw i’r llefydd hynny. Os na allwch chi fod yn obeithiol yn y job yma yna waeth ichi roi’r gorau iddi.”

Dim peryg i reol iaith

Dywedodd Elfed Roberts ei fod yn edrych ymlaen at gwrdd â’r Gweinidog dros y Gymraeg, Leighton Andrews, a awgrymodd yn Llandw y byddai ‘n barod i roi mwy o arian i’r Eisteddfod ar yr amod bod yr ŵyl yn “moderneiddio”.

“Mae pob grant cyhoeddus yn cynnwys amodau o ryw fath, ond nid wyf i wedi clywed yr un awgrym gan y Gweinidog fod angen llacio’r rheol Gymraeg,” meddai Elfed Roberts.

Gwaddol ‘anhygoel’

Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Bro Morgannwg wedi dweud wrth Golwg360 bod yr Eisteddfod wedi cael effaith arbennig ar yr ardal.

Dywedodd Dylan Jones ei fod wedi bod o gwmpas y fro heddiw yn diolch i bawb am eu gwaith a bod pawb yn llawn canmoliaeth a balchder am yr Eisteddfod.

“Mae hi wedi gadael etifeddiaeth gymdeithasol ac ysbryd adeiladol arbennig yma,” meddai. “Mae llawer wedi dweud hefyd eu  bod am fwrw ati i ddysgu Cymraeg ac mae hyn i gyd yn waddol anhygoel.”