Y fflamau ar La Gomera
Mae cannoedd o bobl wedi gorfod ffoi ar gychod a miloedd yn rhagor wedi gorfod gadael eu cartrefi ohewydd tanau mawr ar rai o’r Ynysoedd Dedwydd neu Ynysoedd y Caneri.
Mae’r tanau wedi cynnau oherwydd y tymheredd uchel ar ynysoedd La Gomera a Tenerife – dwy ynys boblogaidd gan bobl o wledydd Prydain sy’n mynd dramor ar eu gwyliau.
Cafodd cannoedd o bobol eu cludo ar gychod o bentref Valle Gran Rey ar ynys La Gomera i San Sebastian er mwyn ffoi’r tanau a bu’n rhaid i dros 5,000 o bobol adael trefi La Gomera a Tenerife dros y penwythnos oherwydd y perygl.
Mae’r fflamau hefyd yn bygwth rhai o fforestydd mwyaf hynafol Ewrop ym mharc cenedlaethol Garajonay ar ynys La Gomera.
Dywed llywodraeth ranbarthol yr Ynysoedd Dedwydd bod perygl i 12 milltir sgwâr o dir losgi yn y parc gan ddinistrio coedtir sefydlwyd 11 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd y safle yma ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1986.
Dau ddyn tân yn marw
Mae tua hanner dwsin o danau wedi cynnau ar dir mawr Sbaen hefyd. Mae diffoddwyr yn ymladd y fflamau yn Ourense yng ngogledd orllewin y wlad a bu farw dau ddyn tân yn nhalaith Alicante yn y dwyrain wrth iddyn nhw geisio diffodd fflamau gwyllt yn ôl swyddogion y gwasanaethau brys yno.
Dywedodd llefarydd fod un dyn tân wedi marw mewn ysbyty yn ninas Alicante heddiw a bod un wedi marw yno ddoe.
Mae dau aelod arall o’r criw yn cael eu trin yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Dywed cymdeithas yr asiantwyr teithio ABTA yn y DU nad yw’r tanau wedi amharu yn ormodol ar wyliau hyd yma er bod rhai Prydeinwyr wedi gorfod newid gwestai.
“Dyw’r canolfanau twristaidd ddim wedi cael eu heffeithio gan y tanau ond rydyn ni wedi canslo rhai teithiau i gefn gwlad Tenerife,” meddai llefarydd.