Soweto Kinch yn Aberhonddu
Roedd atgyfodiad Gŵyl Jazz Aberhonddu’n ddigon o lwyddiant i wneud i’r trefnwyr edrych ymlaen yn ffyddiog at y flwyddyn nesa’.
Yn ôl cwmni Orchard, roedd mwy nag 80% o’r seddi wedi eu cymryd ar gyfer 25 o gyngherddau yn y dref farchand ym Mhowys ac roedd atgyfodi gweithgareddau’r stryd a’r dre’n llwyddiant ysgubol, medden nhw.
Dim ond ym mis Mai y cafodd y cwmni o Gaerdydd y cytundeb i achub yr Ŵyl ar ôl i’r trefnwyr blaenorol, Gŵyl y Gelli, dynnu’n ôl. Mae’r trefnwyr newydd yn cael cefnogaeth ariannol gan y Loteri Cenedlaethol.
Mae Orchard yn disgwyl gwneud colled gymharol fechan eleni ond yn credu bod y seiliau wedi eu gosod ar gyfer y blynyddoedd nesa’.
‘Derbyniad da’
Hwyl ar y stryd - Band Samba Aberhonddu
“Roedd yna dderbyniad da iawn i’r Ŵyl,” meddai Tim Powell, un o gyfarwyddwyr Orchard. “Roedd llawer o bobol yn dweud ein bod wedi ail-gydio yn ysbryd yr Ŵyl Jazz ar ei gorau.
“Fe wnaethon ni gydweithio’n agos gyda’r Fringe hefyd a gyda’r clwb jazz lleol, Jazz in the Bar, er mwyn trefnu rhai o’r cyngherddau ddoe.
“D’yn ni ddim wedi gwneud y syms terfynol eto ond mae’n ymddangos ein bod ymhell tros 80%. Roedden ni’n disgwyl rhywfaint o golled eleni ond fydd hi ddim yn ddrwg.
“Doedd dim amser eleni i fynd ar ôl noddwyr ond r’yn ni mewn sefyllfa dda’n awr i fynd ar ôl partneriaid masnachol.”
Cyfiawnhau dewis Dionne
Y gantores ‘soul’, Dionne Warwick, oedd y brif berfformwraig ar y nos Wener gynta’, er na fyddai llawer yn ystyried ei bod hi’n perthyn i ŵyl jazz.
Roedd 800 o bobol yn Neuadd y Farchnad Aberhonddu i wrando arni ac roedd Tim Powell yn amddiffyn y penderfyniad yn gry’.
Jazz 'go iawn' - Stan Tracey ddoe
“Mae jazz yn eang ianw beth bynnag ond trwy gael artistiaid anferht fel Dionne Warwick mae modd talu am gyngherddau sy’n apelio at gefnogwyr jazz ‘go iawn’, beth bynnag ydy’r rheiny.
“Mae’n rhaid i’r ŵyl dalu ei ffodd ac mae gallu denu 800 o bobol i neuadd marchnad mewn tref yng nghanolbarth Cymru’n grêt.”