Y robot Curiosity
Glaniodd robot NASA ar y blaned Mawrth y bore ma er mwyn gweld os yw’r blaned wedi cynnal bywyd yn y gorffennol.
Bydd y cerbyd robotaidd, sy’n pwyso dros dunnell ac sy’n cael ei alw’n ‘Curiosity’, yn teithio’r blaned am rhyw ddwy flynedd er mwyn dod i wybod mwy am yr amodau byw yno.
Hwn yw’r pedwerydd peiriant i NASA ei roi ar y blaned Mawrth, ac fe gostiodd y prosiect £1.6 biliwn.
Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio mai proses araf deg fydd taith ‘Curiosity’ ar y blaned Mawrth.
Bu gorfoledd a dathlu mawr mewn labordy yn y dalaith California, lle mae pencadlys y prosiect, pan gadarnhawyd fod y peiriant wedi glanio’n ddiogel.
Mae gwyddonwyr ac arbenigwyr yno wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers dros ddegawd.